Pethau i’w Gwneud yn Llanbedr Pont Steffan

Cofeb Man geni rygbi yng Nghymru

Cofeb ar gampws y Brifygsol sy’n coffau rol yr Hen Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn hanes rygbi Cymru. Cafodd rygbi’i gyflwyno i Gymru gan y Parchedig Athro Rowland Williams a ddaeth yn Ddirpwy-Brifathro Coleg Dewi Sant ym 1850. Mae Undeb Rygbi Cymru yn cydnabod pwysigrwydd Llambed i ddatblygiad rygbi yng Nghymru, ac mae erthyglau yn archifau’r Brifysgol sy’n son am chwarae rygbi yng Ngholeg Dewi Sant yn Llambed yn yr 1850au. Credir bod gemau wedi’u chwarae rhwng myfyrwyr o 1850 ymlaen gyda’r gêm gystadleuol gyntaf i ddefnyddio’r rheolau rygbi yn cael ei chwarae yn 1866.

Lleolir y cofeb ar gampws y Brifysgol rhwng y Llyfrgell ac Adeilad Caergaint.

 

Amgueddfa Llambed

Lleolir Amgueddfa Llambed yn yr Hen Borthordy, Stryd y Coleg. Mae ar agor bob dydd Sadwrn, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10 a 4 o’r gloch.

www.hanesllambed.org.uk

 

quilt-centreCanolfan Cwiltiau Cymreig

Arddangfa byd-enwog o Gwiltiau Cymreig a lleolir yn hen Neuadd y Dref. Mae’r arddangosfa yn newid trwy’r flwyddyn a cheir siop a chaffi ar y safle.

www.welshquilts.com

(01570) 422088

 

Llwybr Tref Llambed

Taith trwy hanes Llambed yw llwybr treftadaeth y dref. Mae’n mynd â chi i Glwb Rygbi Llambed, un o aelodau gwreiddiol Undeb Rygbi Cymru; y Gofeb Ryfel a gynlluniwyd gan W Goscombe John, a’r Brifysgol. Mae hefyd yn esbonio cysylltiad Llambed â’r ymgais i lofruddio Dylan Thomas ym 1945.

 

Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant

Llambed yw cartref prifysgol hynaf Cymru. Sefydlwyd Coleg Dewi Sant ym 1822 gan Thomas Burgess, Esgob Tyddewi. Mae’r Brifysgol bellach yn cynnig cymysgedd o gyrsiau traddodiadol a modern, ac mae’n arloesi ym maes addysgu dros y Rhyngrwyd. Mae’r tiroedd ar agor i’r cyhoedd, ac mae croeso i chi ymweld. Mae gan Lyfrgell y Sylfaenwyr yn yr Hen Adeilad yn cynnwys casgliad hynod ddiddorol o lyfrau, ac yn cynnal amrywiaeth o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn. Mae Capel y Brifysgol, sydd hefyd yn yr Hen Adeilad, yn un fan y dylai pob ymwelydd fynd iddo.

http://www.trinitysaintdavid.ac.uk/

 

 

Adfeilion Ffynnonbedr
Saif gweddillion maenordy Llambed, Ffynnonbedr, ychydig i’r gorllewin o Ganol y Dref. Roedd Ffynnonbedr ar un adeg yn un o dai mawr harddaf Cymru ond ar ôl marwolaeth ei berchennog diwethaf, Syr Herbert Lloyd ym 1769, dechreuodd ddadfeilio. Prysurwyd ei ddiwedd gan yr ardd ben to, ond credid yn lleol mai canlyniad melltith a fwriwyd ar blasty Maesyffynnon, y defnyddiwyd ei feini wrth godi Ffynnonbedr, gan y Ficer Rhys Prichard.

 

Gerllaw

Mae nifer o atyniadau lleol o fewn cyrraedd i Lambed sy’n werth ymweld â nhw.

 

Llanerchaeron

Mae’r ystad fonedd Gymreig hon o’r 18fed ganrif, gyda’i thŷ, gerddi muriog a fferm y plas, wedi eu cynllunio a’u hadeiladu gan John Nash, bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ganddi lawer o nodweddion gwreiddiol gan gynnwys clos gwasanaethau gyda llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu. Mae tua 20 munud i ffwrdd mewn car ac mae’r bws 40 o Lambed yn pasio’n agos.

Mwyngloddiau Aur Dolaucothi 

Ymwelwch â Mwyngloddiau Aur Dolaucothi ger Pumsaint, a weithiwyd o gyfnod y Rhufeiniaid neu’n gynt hyd yr 20fed ganrif. Cewch deithiau tywys o’r gweithfeydd tanddaearol a throeon gwych yn Nyffryn Cothi hardd. Dim ond 15 munud mewn car o Lambed.

Bae Ceredigion

Mae Llambed o fewn ychydig filltiroedd i arfordir godidog Bae Ceredigion a’i draethau glân a diarffordd.  Mae llwybr troed ar hyd yr arfordir wedi agor yn ddiweddar.

 

Cerdded

Mae Llambed hefyd yn ganolbwynt i rwydwaith o deithiau cerdded gwledig ar hyd llwybrau troed, llwybrau march neu heolydd tawel. Mae’r rhain yn arwain at lynnoedd, glannau afonydd hardd, hen fryngaerau a meini hirion. Mae mapiau OS sy’n dangos llwybrau’r ardal ar gael i’w prynu o’r Siopau Papurau neu’r siopau llyfrau yn y dref, yn ogystal â’r llyfr Cerdded Llambed a gynhyrchiwyd gan grwp Llambed o Gymdeithas y Cerddwyr, sy’n awgrymu teithiau cerdded diddorol yn yr ardal.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gwybodaeth am lwybr cerdded Llanbedr Pont Steffan – Aberaeron (21 milltir) ar hyd dyffryd prydferth Aeron, a llwybrau yn ardal Llanbedr Pont Steffan i Caer oes yr Haearn Alltgoch.

Mae nifer o lwybrau cerdded prydferth yn Coedwig Cymunedol Coed Hir sydd ar gyrion y dref,

Seiclo

Mae Llambed yn lle gwych i seiclo. Mae gennym ni filltiroedd o ffyrdd tawel ac nid nepell oddi yma mae llwybrau beicio mynydd Fforest Brechfa a Llwybr Seiclo Ystwyth.

Am fwy o wybodaeth am bethau i’w wneud yn yr ardal beth am ymaeld a gwefan Darganfod Ceredigion.