Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan

 

Sefydlwyd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan ym 1884 pan dderbyniodd y dref ei siarter fel bwrdeistref. Dangosir y siarter yn Swyddfa Cyngor Sir Ceredigion, Stryd y Farchnad. Mae llywodraeth lleol yn wahanol iawn erbyn heddiw ac mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau Cyngor y Dref, ers 1996.

College Street

Mae gan Gyngor y Dref amryw gyfrifoldebau gan gynnwys Parc yr Orsedd, y CCTV, rhai llwybrau yn yr ardal a dodrefn stryd. Gall wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio, cyn iddynt gael penderfyniad gan Gyngor Sir Ceredigion. Gweithia'r Cyngor mewn partneriaeth â mudiadau, clybiau a gwasanaethau'r ardal ac weithiau'n darparu cefnogaeth ariannol ar eu rhan. Penodir aelodau i Fwrdd y Pwll Nofio a Chyrff Rheoli Ysgolion. Mae'r Cyngor yn gyfranddalwr ym Menter Llambed, ac yn penodi tri cyfarwyddwr i Fwrdd y Cwmni.

Cynhelir etholiadau bob pedair mlynedd, ac mae'r cynghorwyr yn cynrychioli'r dref i gyd, yn hytrach na wardiau arbennig. Clerc y Dref yw'r unig un a gyflogir gan y cyngor. Er i peth gwaith gael ei gontractio allan, cyfrannir llawer o oriau gan aelodau'r cyngor, er mwyn arbed arian.

Cynhelir gyfarfodydd y Cyngor, sy'n agored i aelodau'r cyhoedd, ar nos Iau olaf y mis yn Neudd Eglwys Sant Pedr am 7.30yh. Mae'r cofnodion ar gael ar y wefan hon, neu gan Glerc y Dref.

Cynheir cyfarfodydd 2010 ar y ddyddiadau isod

  • Cyfarfod y Gyllideb 14 Ionawr
  • 28 Ionawr
  • 25 Chwefror
  • 25 Mawrth
  • 29 Ebrill
  • Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 7 Mai
  • 27 Mai
  • 24 Mehefin
  • 29 Gorffennaf
  • 26 Awst
  • 30 Medi
  • 28 Hydref
  • 26 Tachwedd

 

Am wybodaeth bellach cysyllwtch �