Trafnidiaeth Lleol
Saif tref Llanbedr Pont Steffan yn agos i galon Cymru, tuag awr a thri chwarter mewn car o Gaerdydd, a 40 munud o Aberystwyth. Ein porthladdoedd fferi agosaf yw Abergwaun a Doc Penfro, ac mae cychod rheolaidd yn cyrraedd y ddau o Iwerddon. Y meysydd awyr rhyngwladol agosaf yw Caerdydd a Birmingham.
Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw Caerfyrddin (gwasanaethau o’r Gorllewin, Abertawe, Caerdydd a Llundain) neu Aberystwyth (gwasanaethau o’r Gogledd, Amwythig a Birmingham). Trenau Arriva Cymru sy’n rhedeg y ddwy orsaf.
Mae gwasanaethau coets TrawsCambria o Gaerdydd i Aberystwyth yn galw yn Llambed.
Amserau teithio
- Caerdydd i Lambed 1 awr 45 mun.
- Caeredin i Lambed 7 awr
- Dulyn i Lambed 5 - 6 awr
- Llundain i Lambed 5 awr
- Manceinion i Lambed 3 awr 30 mun.
Gwasanaethau Bws Lleol

Llambed yw both rhwydwaith o wasanaethau bws lleol i Aberaeron, Aberystwyth, Tregaron, Llanymddyfri a Chaerfyrddin. Mae manylion llawn am y gwasanaethau hyn ar gael gan Gyngor Sir Ceredigion.
Gwybodaeth Drafnidiaeth