Gwybodaeth i Ymwelwyr

Mae llawer o fannau hanesyddol a hardd yn Llambed ei hun, yn ogystal ag amrywiaeth o deithiau cerdded lleol. Mae llawer o atyniadau eraill at bob dant o fewn cyrraedd hawdd i’r dref. Hefyd mae calendr llawn o ddigwyddiadau yn Llambed drwy gydol y flwyddyn.

Atyniadau

  • Llwybr Tref Llambed

Canolfan Cwiltiau Jen JonesTaith trwy hanes Llambed yw llwybr treftadaeth y dref. Mae’n mynd â chi i Glwb Rygbi Llambed, un o aelodau gwreiddiol Undeb Rygbi Cymru; y Gofeb Ryfel a gynlluniwyd gan W Goscombe John, a’r Brifysgol. Mae hefyd yn esbonio cysylltiad Llambed â’r ymgais i lofruddio Dylan Thomas ym 1945.

  • Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Llambed yw cartref prifysgol hynaf Cymru. Sefydlwyd Coleg Dewi Sant ym 1822 gan Thomas Burgess, Esgob Tyddewi. Mae’r Brifysgol bellach yn cynnig cymysgedd o gyrsiau traddodiadol a modern, ac mae’n arloesi ym maes addysgu dros y Rhyngrwyd. Mae’r tiroedd ar agor i’r cyhoedd, ac mae croeso i chi ymweld. Mae gan Lyfrgell y Sylfaenwyr yn yr Hen Adeilad yn cynnwys casgliad hynod ddiddorol o lyfrau, ac yn cynnal amrywiaeth o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn. Mae Capel y Brifysgol, sydd hefyd yn yr Hen Adeilad, yn un fan y dylai pob ymwelydd fynd iddo.

www.lamp.ac.uk

Canolfan Cwiltiau Jen Jones

Arddangosir cwiltiau o gasgliad Jen Jones yn Neuadd y Dref yn y Stryd Fawr. Mae’r Ganolfan ar agor o ddydd Mawrth tan ddydd Sadwrn a chynhelir cyrsiau amrywiol trwy’r flwyddyn.

http://www.jen-jones.com/JJWQC.htm

  • Adfeilion Ffynnonbedr

Saif gweddillion maenordy Llambed, Ffynnonbedr, ychydig i’r gorllewin o Ganol y Dref. Roedd Ffynnonbedr ar un adeg yn un o dai mawr harddaf Cymru ond ar ôl marwolaeth ei berchennog diwethaf, Syr Herbert Lloyd ym 1769, dechreuodd ddadfeilio. Prysurwyd ei ddiwedd gan yr ardd ben to, ond credid yn lleol mai canlyniad melltith a fwriwyd ar blasty Maesyffynnon, y defnyddiwyd ei feini wrth godi Ffynnonbedr, gan y Ficer Rhys Prichard.

  • Amgueddfa Llambed

Mae Amgueddfa Llambed, yn Llyfrgell y Dref, Stryd y Farchnad, yn gartref i gasgliad bychan o eitemau sy’n dangos hanes y dref. Arddangosir Siarter Frenhinol wreiddiol y Dref yma hefyd.Mae’r amgueddfa ar agor yn ystod oriau agor y Llyfrgell, dydd Llun i ddydd Sadwrn.

  • Llanerchaeron

Mae’r ystad fonedd Gymreig hon o’r 18fed ganrif, gyda’i thŷ, gerddi muriog a fferm y plas, wedi eu cynllunio a’u hadeiladu gan John Nash, bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ganddi lawer o nodweddion gwreiddiol gan gynnwys clos gwasanaethau gyda llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu. Mae tua 20 munud i ffwrdd mewn car ac mae’r bws X40 o Lambed yn pasio’n agos.

(01558) 82514

http://www.nationaltrust.org.uk/main/w-llanerchaeron

  • Mwyngloddiau Aur Dolaucothi

Ymwelwch â Mwyngloddiau Aur Dolaucothi ger Pumsaint, a weithiwyd o gyfnod y Rhufeiniaid neu’n gynt hyd yr 20fed ganrif. Cewch deithiau tywys o’r gweithfeydd tanddaearol a throeon gwych yn Nyffryn Cothi hardd. Dim ond 15 munud mewn car o Lambed.

(01558) 825146

http://www.nationaltrust.org.uk/main/w-dolaucothigoldmines

  • Bae Aberteifi

Mae Llambed o fewn ychydig filltiroedd i arfordir godidog Bae Aberteifi a'i draethau glân a diarffordd.  Mae llwybr troed ar hyd yr arfordir wedi agor yn ddiweddar.

Llwybr Arfordir Ceredigion http://www.walkcardiganbay.com

Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Aberteifi http://www.cardiganbaysac.org.uk

Gweithgareddau

  • Cerdded

Mae Llambed hefyd yn ganolbwynt i rwydwaith o deithiau cerdded gwledig ar hyd llwybrau troed, llwybrau march neu heolydd tawel. Mae’r rhain yn arwain at lynnoedd, glannau afonydd hardd, hen fryngaerau a meini hirion. Mae mapiau OS sy’n dangos llwybrau’r ardal ar gael i’w prynu o’r Siopau Papurau neu’r siopau llyfrau yn y dref, yn ogystal â’r llyfr Cerdded Llambed a gynhyrchiwyd gan grwp Llambed o Gymdeithas y Cerddwyr, sy’n awgrymu teithiau cerdded diddorol yn yr ardal.

  • Seiclo

Mae Llambed yn lle gwych i seiclo. Mae gennym ni filltiroedd o ffyrdd tawel ac nid nepell oddi yma mae llwybrau beicio mynydd Fforest Brechfa a Llwybr Seiclo Ystwyth.

Fforest Brechfa http://www.forestry.gov.uk/website/recreation.nsf/LUwebDocsByKey/WalesCarmarthenshireNoForestBrechfaWelsh

Llwybr Ystwyth http://www.ystwythtrail.org.uk/home.asp

Digwyddiadau

  • Ffair Fwyd Llambed

Sioe Amaethyddol LlambedMae’r ffair fwyd, a gynhelir ddiwedd Gorffennaf bob blwyddyn yn denu cynhyrchwyr bwyd a diod o bob cwr o Gymru. Dylai selogion bwyd a diod da sicrhau na fyddant yn ei cholli.

www.lampeterfoodfestival.org.uk

  • Sioe Amaethyddol Llambed

Cynhelir y Sioe, sy’n dathlu’r ardaloedd gwledig o amgylch y dref, ym mis Awst bob blwyddyn. Cewch ragor o wybodaeth gan Mr Aeron Hughes (01570) 422654

  • Eisteddfod Pantyfedwen

Cynhaliwyd Eisteddfod Pantyfedwen am y tro cyntaf ym 1967, ac fe'i cynhelir yn Ysgol Gyfun Llambed dros Benwythnos Gŵyl Banc Awst bob blwyddyn. 

Am wybodaeth bellach cysyllwtch �