Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan Sefydlwyd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn 1974 fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru. Daethpwyd i ben â Chyngor Bwrdeistref Llanbedr Pont Steffan (a sefydlwyd yn 1884), a throsglwyddwyd llawer o’r dyletswyddau i gynghorau Ceredigion a Dyfed; cafwyd ad-drefnu pellach yn 1996 wrth greu Cyngor Sir Ceredigion. Darperir y rhan fwyaf o’r gwasanaethau erbyn hyn gan Gyngor Sir Ceredigion, ond erys nifer o ddyletswyddau gan Gyngor Tref Llambed fel y nodir ar y dudalen pwerau a dyletswyddau Etholir y cynghorwyr bob pum blynedd o un ward sy’n cwmpasu’r dref i gyd. Mae Maer y dref yn cael ei (h)ethol pob blwyddyn gan aelodau’r cyngor ac yn cadeirio cyfarfodydd y cyngor, arwain y cyngor a chynrychioli’r cyngor mewn cyfarfodydd a digwyddiadau dinesig am dymor o flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor, sy’n agored i aelodau’r cyhoedd, ar nos Iau olaf y mis yn Neuadd Fictoria am 7.30yh. Mae agendas a chofnodion ar gael ar y wefan hon, neu gan Glerc y Dref.