Digwyddiadau Mae nifer o ddigwyddiadau blynyddol yn Llambed sy’n werth ymweld â nhw. Ma’er brif ddigwyddiadau isod, ond mae llawer mwy ymlaen. Yr Haf Mae Ffair Fwyd Llambed a gynhelir ddiwedd Gorffennaf bob blwyddyn yn denu cynhyrchwyr bwyd a diod o bob cwr o Gymru. Dylai selogion bwyd a diod da sicrhau na fyddant yn ei cholli. Cynhelir y Ffair eleni ar 23 Gorffennaf. Cynhelir Carnifal Llambed yn flynyddol ym mis Awst, sy’n hwyl i’r teulu cyfan. Sefydlwyd Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen yn 1967 ac fe’i cynhelir yn flynyddol dros benwythnos Gŵyl Banc Awst. Bydd yr Eisteddfod eleni ar 27, 28 and 29 Awst yn Ysgol Bro Pedr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod, Dorian Jones – 01570 422678. Beth am weld yr hyn sydd gan y gymuned amaethyddol i’w chynnig drwy ymweld â Sioe Amaethyddol Llambed. Cynhelir y Sioe yn flynyddol ym mis Awst, gydag amrywiaeth o ddosbarthau yn cynnwys defaid, ceffylau, gwartheg a nifer o stondinau. Y Gaeaf Yn nhymor y gaeaf, mae gennym Ffair Nadolig ar dir y Brifysgol, gwasanaeth Plygain traddodiadol yng nghapel y coleg, ac un o blith yr ychydig o Sioeau Ffowls sy’n dal i gael eu cynnal yng Nghymru. Mae Gwyl Gwrw a Seidr Cymreig ym mis Chwefror a gorymdaith i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Mae rhywbeth i’w wneud drwy’r flwyddyn yn Llambed! Ceir restr o ddigwyddiadau sy’n dod ar ein Hafan.