Map o Lanbedr Pont Steffan
Saif tref Llanbedr Pont Steffan yn agos at galon Cymru, tuag awr a thri chwarter mewn car o Gaerdydd, a 40 munud o Aberystwyth.
Meysydd Parcio
Mae meysydd parcio ar y Cwmins, Rookery a Stryd y Farchnad ac maen nhw wedi’u nodi ar y map uchod. Mae parcio am ddim ar gael ar strydoedd yng nghanol y dref.
Parcio Beiciau
Mae llefydd parcio beiciau wrth archfarchnad y Co-op ac ar Sgwar Harford
Gwasanaethau Bysys
Mae amslerlenni rhai lwybrau gan gynnwys T1 wedi cael eu cwtogi oherwydd cyfyngiadau teithio Covid-19. Gwiriwch yr wybodaeth ar wefan Traveline Cymru yn hytrach na dibynnu ar ddolenni isod
Mae Llambed yn ganolbwynt i rwydwaith o wasanaethau bws lleol i Aberaeron, Aberystwyth, Tregaron, Llanymddyfri a Chaerfyrddin. Mae manylion llawn am y gwasanaethau hyn ar gael gan Gyngor Sir Ceredigion a Traveline Cymru.
Traws Cymru T1 – Aberystwyth-Aberaeron-Llanbedr Pont Steffan-Caerfyrddin – AmserlenMegabus – Aberystwyth-Llanbedr Pont Steffan-Caerfyrddin-Abertawe-Caerdydd-Llundain – AmserlenGwasaneth 288/289 – Llanymddyfri-Llansawel-Llanbedr Pont Steffan – AmserlenGwasanaeth 585 – Aberystwyth-Llanilar-Tregaron-Cellan-Llanbedr Pont Steffan – AmserlenGwasanaeth 588 – Aberystwyth-Llangwyryfon-Tregaron-Llangybi-Llanbedr Pont Steffan –Amserlen
Gwasanaeth Bwcabus
Mae gwasanaeth Bwcabus yn rhedeg yn ardal Llambed, yn darparu teithiau yn ôl y galw i ardaloedd lle nad oes gwasanaeth bws arferol. Ceir hefyd teithiau penodol o Temple Bar a Chribyn, Llanybydder a Phencarreg a Rhos yr Hafod a Thalsarn. Dangosir yr ardal sy’n cael gwasnaethu bwcabus ar y map hwn.
Am wybodaeth bellach ffoniwch 01269 801 601 neu anfonwch ebost at bwcabus@carmarthenshire.gov.uk
Gwasanaeth 616 – Temple Bar-Cribyn-Llanbedr Pont Steffan-Cwmann – AmserlenGwasanaeth 617 – Bwlchyfadfa-Gorsgoch-Llanybydder-Llanbedr Pont Steffan – AmserlenGwasanaeth 618 – Bethania-Talsarn-Silian-Llanbedr Pont Steffan – Amserlen
Gwasanaethau Trên
Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw Caerfyrddin (gwasanaethau o’r Gorllewin, Abertawe, Caerdydd a Llundain) neu Aberystwyth (gwasanaethau o ogledd Cymru, Amwythig a Birmingham). Gwasanaethir y ddwy orsaf gan Drafnidiaeth Cymru, gyda rhai gwasanaethau i Gaerfyrddin gan Great Western Railway.
Mae gwasanaeth bwsysiau T1 yn galw yng ngorsafoedd Caerfyrddin ac Aberystwyth ar gyfer teithio ymlaen i Lanbedr Pont Steffan.
Porthladdoedd a Meysydd Awyr
Ein porthladdoedd agosaf yw Abergwaun (Stena Line) a Doc Penfro (Irish Ferries), gyda theithiau rheolaidd i Iwerddon.
Mae’r meysydd awyr agosaf yng Nghaerdydd a Birmingham.
Gwybodaeth Teithio
Ceir gwybodaeth am drafnidaeth cyhoeddus gan Traveline Cymru (0871 200 22 33) neu National Rail Enquiries (0845 6040500 – Cymraeg 08457 484950 – Saesneg).
Mae gwybodaeth teithio hefyd ar gael o BBC Wales Travel, Traffic Wales a The AA
Gwasanaethau Tacsi/Cerbyd Preifat
- Fastline Cabs – 07748 586848 – fastlinecabs.com
- NickH – Private Hire – 07940 588809 – www.nickh-privatehiretaxi.co.uk